GPC Geiriadur Welsh Dictionary

by Geiriadur Prifysgol Cymru


Libri e consultazione

libero



A historical dictionary for Welsh speakers - learners please use Ap Geiriaduron.

Per saperne di piu

[English below]Mae ap GPC yn cynnwys holl ddata Geiriadur Prifysgol Cymru, geiriadur Cymraeg cynhwysfawr tebyg i’r Oxford English Dictionary. Yn wahanol i GPC Ar Lein (http://gpc.cymru), mae modd lawrlwytho holl gynnwys y Geiriadur i’ch dyfais fel nad oes angen cysylltiad â’r Rhyngrwyd i’w ddefnyddio. Diffinnir pob gair yn Gymraeg gyda chyfystyron Saesneg ac enghreifftiau o’i ddefnydd o bob cyfnod ynghyd â tharddiad (etymoleg) i bob gair. Rhoddir gwybodaeth ramadegol fel cenedl a ffurfiau lluosog enwau.Nodweddion:Geiriadur Prifysgol Cymru yw’r geiriadur Cymraeg mwyaf gyda- 124,500 o ddangoseiriau- 7,150 o amrywiadau- 34,400 o gyfuniadau (ymadroddion)- 475,000 o ddyfyniadau enghreifftiol gyda manylion am y ffynonellau- dros 60,000 o groesgyfeiriadauMae modd chwilio drwy’r dangoseiriau, yr amrywiadau, a’r cyfuniadau am air neu ymadrodd. Er mwyn hwyluso’r chwilio, mae’r ap yn anwybyddu acenion, rhifau, a’r sillgoll, gan restru’r holl ganlyniadau i chi gael dewis o’u plith.Os yw’r ap yn methu dod o hyd i’r gair rydych wedi chwilio amdano, bydd yn cynnig rhestr o eiriau tebyg.Mae’r ap yn chwilio am ffurfiau treigledig geiriau yn awtomatig er mwyn dod o hyd i fwy o ganlyniadau.Gallwch ddefnyddio nodau arbennig (neu ‘wildcards’: ‘*’, ‘?’, ‘+’).Gallwch chwilio drwy’r cyfystyron Saesneg gan ddefnyddio’r un nodau arbennig.Does dim angen bod ar lein i ddefnyddio’r ap. Mae’n bosibl lawrlwytho’r holl ddata (tua 185MB) drwy gysylltiad WiFi er mwyn gallu defnyddio’r ap yn annibynnol o’r Rhyngrwyd. Os nad oes digon o le ar y ddyfais, mae’n bosibl lawrlwytho fersiwn llai o’r data (tua 132MB drwy hepgor y dyfyniadau enghreifftiol).Mae’r ap yn cynnwys dwy gêm eiriau - anagramau a geiriau coll - gan ddefnyddio diffiniadau’r Geiriadur fel cliwiau. Mae’n bosibl cyfyngu’r dewis o eiriau i’ch chwiliadau diweddar - yn arbennig o ddefnyddiol i ddysgwyr er mwyn ymarfer geirfa newydd.Ceir adran ‘Cymorth’ i ateb cwestiynau cyffredin ac i roi rhagor o wybodaeth.Datblygwyd gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru. -----------------------------------------------Geiriadur Prifysgol Cymru: A Dictionary of the Welsh Language is the Welsh-language equivalent of the Oxford English Dictionary. In contrast with GPC Online (http://gpc.wales), you can download the entire contents of the Dictionary to your device so it can be used offline. Every word is defined in Welsh with English synonyms and illustrative quotations, together with the word’s etymology, and grammatical information such as the gender and plurals of nouns.Features:Geiriadur Prifysgol Cymru is the largest Welsh dictionary with- 124,500 headwords- 7,150 variant forms- 34,400 collocations (phrases)- 475,000 illustrative quotations with source references- over 60,000 cross-referencesThe headwords, variant forms, and collocations are searchable by word or phrase. Accents, numerals, and apostrophes are ignored to simplify input - instead all matches are listed for you to choose from.Fuzzy searching: If the app fails to find the word you are searching for it will suggest similar words.The app searches automatically for mutated forms in order to find additional results.You can use wildcards (‘*’, ‘?’, ‘+’).You can search the English synonyms, using the same wildcards.You can use the app online, with no data downloaded. Alternatively you can download all the data (about 185MB) via WiFi and use it offline. If you don’t have enough room on your device, you can download the data without the quotations (about 132MB). The app contains two word games - an anagram game and a hidden-word game - with clues based on the definitions in the Dictionary. The selection of words can be confined to your recent searches - particularly useful for learners to practice new vocabulary.There is a ‘Help’ section to answer frequently asked questions and to supply further information. Developed with the financial assistance of the Welsh Government.Cywiriwyd gwall wrth lawrlwytho cronfa ddata o safle https / Fixed error concerning database download from https site.